Y Bwrdd Rheoli |
Lleoliad: |
Ystafell Gynadledda 4B - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 7 Mawrth 2016 |
|
|||
Amser: |
13.00 - 14.30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: MB (03-16) |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Claire Clancy (Prif Weithredwr a Chlerc) (Cadeirydd) Nicola Callow (Cyfarwyddwr Cyllid) Adrian Crompton (Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad) Anna Daniel (Pennaeth Trawsnewid Strategol) Non Gwilym (Pennaeth Cyfathrebu) Mark Neilson (Pennaeth TGCh) Mair Parry-Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi) Kathryn Potter (Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil) Mike Snook (Pennaeth Pobl a Lleoedd) Craig Stephenson (Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn) Dave Tosh (Cyfarwyddwr Adnoddau'r Cynulliad) Chris Warner (Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth) Siân Wilkins (Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Liz Jardine (Ysgrifenyddiaeth)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Gareth Watts (Pennaeth Dros Dro Llywodraethu ac Archwilio) Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol) Sulafa Thomas (Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cafwyd ymddiheuriad gan Elisabeth Jones (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Nodyn cyfathrebu i'r staff – Non Gwilym
Cytunodd Non Gwilym i ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.
3 Cofnodion cyfarfod 25 Ionawr
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr fel cofnod cywir, ac eithrio eglurhad mewn perthynas â'r Dangosfwrdd Adnoddau Dynol (10.1) lle cytunwyd, er bod y Bwrdd Rheoli wedi gofyn am fwy o ddata, i gadw'r adroddiad yn syml.
4 Strategaeth a gwerthoedd corfforaethol y Comisiwn
Cyflwynodd Anna Daniel bapur a baratowyd fel fframwaith i gynorthwyo'r Bwrdd Rheoli i ystyried yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Comisiwn newydd mewn perthynas â'i nodau a'i flaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn ogystal, gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried gwerthoedd y sefydliad a sut y gellid eu hadnewyddu.
Trafododd y Bwrdd Rheoli y fframwaith a'r argymhellion a chytunodd y byddai:
· yn integreiddio strategaeth y gyllideb yn strategaeth y Comisiwn;
· yn pwysleisio parhad y nodau yn ystod Cynulliadau blaenorol, ac yn cryfhau'r dystiolaeth am y llwyddiant a gyflawnwyd yn sgil y nodau;
· yn ymgorffori'r themâu o'r atodiad yn yr adran craffu ar y gorwel ac yn nodi'r meysydd blaenoriaeth arfaethedig o dan y nodau strategol i'w hystyried gan y Comisiwn;
· yn rhoi lle mwy amlwg i'r cyfrifoldebau Cydraddoldebau, Dwyieithrwydd a Chynaliadwyedd;
· yn ailedrych ar y gwerthoedd corfforaethol wedi i'r Comisiwn gytuno ar ei nodau a'i flaenoriaethau strategol.
Camau i’w cymryd: Anna Daniel i gwrdd â Claire Clancy i drafod y fersiwn nesaf o'r papur strategaeth.
5 Dangosfwrdd y Pumed Cynulliad - Chwefror 2016
Cafodd y Bwrdd gyfle i weld y dangosfwrdd diweddaraf yn dangos y gwaith sy'n mynd rhagddo, y materion allweddol a'r risgiau.
Ystyriodd y Bwrdd a oes rôl ehangach i'r Penaethiaid o ran cwrdd â'r Aelodau newydd yn ystod yr wythnosau cyntaf a chytunwyd y byddent yn bresennol yn y derbyniad ar ôl ethol y Llywydd, yn ogystal â chyfarfodydd sy'n cael eu trefnu gyda'r Aelodau.
Camau i’w cymryd:
· Penaethiaid gwasanaeth i sicrhau bod mewnrwyd yr Aelodau yn gyfoes a bod cysondeb o ran arddull a chywirdeb y cynnwys; a nodi unrhyw wirfoddolwyr i helpu i brawfddarllen dogfennau newydd a dogfennau wedi'u diweddaru a choladu gwybodaeth i ymgeiswyr.
6 Risgiau Corfforaethol
Ystyriodd y Bwrdd Rheoli y risgiau cyfredol a newydd ar lefel gorfforaethol a nododd y cynnydd o ran lliniaru risgiau a statws presennol pob risg.
Yn dilyn yr adolygiad o'r risg Gallu Corfforaethol ar lefel Bwrdd ac ACARAC, diweddarwyd y disgrifiad o'r risg i adlewyrchu'r adborth.
Ystyriodd y Bwrdd a ddylid rheoli'r risgiau ynghylch pontio i'r Pumed Cynulliad fel risg corfforaethol, a chytunwyd eu bod yn cael eu rheoli'n rhagweithiol o fewn pob llinyn ac y dylid parhau i wneud hynny.
Mewn perthynas ag adroddiad 'Risg ar dudalen' y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, dywedodd Non Gwilym y byddai'r rheolwr cyfryngau yn adolygu'r camau i'w cymryd.
Byddai'r risg capasiti Dwyieithrwydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu risgiau ynghylch newidiadau posibl i'r gofynion yn y Pumed Cynulliad.
Codwyd y mater o absenoldeb oherwydd salwch a chytunwyd y byddai'r Bwrdd yn trafod hyn yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd, codwyd y mater o ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed mewn perthynas â'r paratoadau sydd eu hangen i liniaru'r risgiau ynghylch y trosiant uchel o ran Aelodau yn ystod y cyfnod pontio i'r Pumed Cynulliad.
Cloi'r cyfarfod
7 Unrhyw fater arall
Cafodd y Bwrdd adborth da am y Penwythnos i'r Teulu yn y Senedd ar 5-6 Mawrth i ddathlu deng mlynedd ers ei agor, a ddenodd dros 3000 o bobl.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 14 Ebrill.